Dysgu cyfunol a hybrid yng ngholegau addysg bellach Cymru
Mae Jisc yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â Digidol 2030, sy'n anelu at weld darparwyr dysgu yng Nghymru yn manteisio ar botensial technoleg ddigidol i gefnogi dulliau gweithredu cynaliadwy a gwydn.
I gefnogi hyn, cynhaliodd Jisc astudiaeth i archwilio’r defnydd o ddulliau cyflwyno hybrid a chyfunol yn y sector addysg bellach (AB) yng Nghymru . Fe wnaeth pandemig COVID-19 gyflymu teithiau colegau AB Cymru i ddarpariaeth dysgu hybrid a chyfunol felly roeddem ni am ddeall yn well sut mae’r rhain wedi esblygu ers hynny a pha ddulliau y mae colegau’n eu defnyddio wrth symud ymlaen.
Mae’r adroddiad a’r chwe astudiaeth achos thematig sy’n cyd-fynd ag ef yn cynnig mewnwelediadau ac enghreifftiau o’r pedair blaenoriaeth genedlaethol allweddol a amlinellwyd yng ngalwad Llywodraeth Cymru i weithredu ar gyfer sefydliadau AB ym mis Rhagfyr 2022:
- Cydweithio i ehangu mynediad i gyfleoedd dysgu
- Datblygu galluoedd digidol dysgwyr a staff a hyder ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith
- Gwneudyn fawr o botensial technoleg i rymuso, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr
- Ymgorffori dulliau ystwyth, gwydn a chynaliadwy o gyflawni
Maent hefyd yn amlinellu ffactorau llwyddiant, heriau, datrysiadau posibl, datblygiadau yn y dyfodol ac argymhellion ar gyfer cyflwyno dysgu hybrid a chyfunol.
Mae’r chwe astudiaeth achos yn plymio'n ddwfn i themâu allweddol:
- Mynediad at ddysgu: sut y gall darpariaeth hybrid a chyfunol wella mynediad at ddysgu yn effeithiol? (pdf)
- Dylunio mannau dysgu: sut mae mannau dysgu yn cael eu hoptimeiddio i gefnogi dysgu hybrid a chyfunol? (pdf)
- Datblygu’r cwricwlwm: sut mae colegau’n ailfeddwl rôl y digidol wrth ddylunio cwricwlwm ac asesu i gefnogi a gwella dysgu hybrid a chyfunol? (pdf)
- Cefnogi staff: sut mae staff yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau a galluoedd digidol sydd eu hangen i gyflwyno dysgu cyfunol a hybrid? (pdf)
- Ymgysylltu â dysgwyr: sut mae colegau'n sicrhau bod dysgwyr yn ymgysylltu cymaint â phosibl â dysgu hybrid a chyfunol? (pdf)
- Addysgu a dysgu dwyieithog: sut y gallai ymagweddau digidol, hybrid a chyfunol drawsnewid a gwella addysgu a dysgu dwyieithog? (pdf)